Theatr yn gwrthwynebu gormes
Yn defnyddio theatr gymhwysol er mwyn adrodd storïau i wireddu newid er gwell
Mae ein prosiectau theatr cymhwysol yn cynnwys perfformiadau, gweithdai, theatr anweledig a hyfforddiant.
Mae llawer o’r rhai sy’n cymryd rhan heb ddim profiad blaenorol.
Dros y blynyddoedd rydym wedi cymryd cip ar bob math o faterion.
Os oes yna wrthdaro yna mae gan TVO ddynesiad er mwyn ceisio ei ddeall – o drais yn y cartref, gangiau, gwrthdaro rhwng llwythau, trosedd, dibyniaeth, camddefnydd a di-gartrefedd.
Edrychwn i mewn arnom ni ein hunain yn ogystal ag am allan i’n cymunedau.
Rydym yn archwilio pob elfen o ymddygiad ar hyd y daith i fod â dealltwriaeth well ohonom ein hunain ac o’n gilydd.
Y nod yw adnabod a rhoi stop ar y patrymau ymddygiad rheini sy’n medru bod yn ddifaol er mwyn ceisio deall o ble maent yn tarddu a’r pethau sy’n sbardun iddynt ddigwydd.
Mae pob grŵp ac unigolyn y byddwn yn cwrdd â nhw yn ystod hyfforddiant, mewn cynadleddau neu berfformiadau wedi cyfoethogi ein datblygiad a’n tŵf ni.
Ein gwreiddiau
Daeth y syniad a’r ddeallltwriaeth o’r hyn y medrai Theatr yn Erbyn Gormes ei gynnig o archwiliad o sgil effeithiau trawma ar unigolion a oedd wedi goroesi cael eu poenydio yn Paraguay, De America.
Darganfu sylfaenydd TVO, Dr Jennifer Hartley
‘Er ei bod hi'n 40 mlynedd ers iddynt gael eu harteithio, doedden nhw ddim wedi sôn am y profiad felly roedd yr effaith yn fyw iawn iddynt o hyd, ac yn eu rhwystro rhag symud ymlaen a byw eu bywydau’
Esgorodd hyn ar The Art of Silence
Gan fanteisio ar ei phrofiad gydag Augusto Boal a Theatr y Rhai a Ormeswyd yn ogystal â'i syniadau hi ei hyn, creodd Jennifer ymateb creadigol a deinamig i'r rhai a oedd wedi goroesi.
Trwy gyfrwng cyfres o weithdai, rhoddodd gymorth iddynt ddod â darnau'r hyn yr oeddent wedi ei brofi at ei gilydd, a thrwy hynny ddod i ddealltwriaeth well o'r hyn a ddigwyddodd a dod o hyd i ddulliau o ddygymod â hynny.
Trwy weithio mewn grŵp ac ar eu profiadau ar eu pennau eu hunain bu modd iddyn nhw ddod i ddeall eu gorffennol, byw yn y presennol ac edrych ymlaen at y dyfodol.
Mae ymchwil Jennifer ar rym trawma i beri mudandod ac effeithiolrwydd technegau drama o ran rhoi llais i oroeswyr wedi dod yn linyn mesur o ran gwaith theatr gymhwysol arloesol.
Mae TVO yn dathlu ein degfed blwyddyn yn gweithredu Theatr Gymhwysol. Yn ogystal rydym yn dathlu derbyn Arian oddi wrth Cronfa Fawr y Loteri ar gyfer ein gwaith gyda phobl sy’n ddigartref o’r enw Behind the Label a bydd hwn yn cael ei lwyfannu am y tro cyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 13 a’r 14eg Rhagfyr 2018.